Department for Culture Media and Sport
amdanom ni: y fersiwn cymraeg
Nod yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) yw gwella ansawdd bywyd pawb trwy gyfrwng gweithgareddau diwylliannol a chwaraeon, cynorthwyo pobl i geisio sicrhau rhagoriaeth ac i hyrwyddo’r diwydiant twristiaeth, y diwydiant creadigol a’r diwydiant hamdden.
Dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, rhaid i bob corff cyhoeddus sy’n darparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru baratoi cynllun sy’n amlinellu sut y byddant yn darparu’r gwasanaethau hyn. Mae’r cynlluniau yn cynnwys dau fersiwn: Saesneg a Chymraeg. Mae modd gweld ein Cynllun Iaith Gymraeg trwy droi at yr archif cyhoeddiadau ar y wefan hon.
Rydym yn gyfrifol am bolisi’r Llywodraeth ynghylch y celfyddydau, chwaraeon, y Loteri Genedlaethol, twristiaeth, llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac orielau, darlledu, y diwydiannau creadigol gan gynnwys ffilm a’r diwydiant cerddoriaeth, rhyddid y wasg a rheoleiddio’r wasg, trwyddedu, gamblo a’r amgylchedd hanesyddol. Ni yw’r Adran sy’n gyfrifol am Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd 2012.
Yn ogystal, rydym yn gyfrifol am restru adeiladau hanesyddol a chofrestru henebion, trwyddedu allforio nwyddau diwylliannol, rheolaeth Casgliad Celf y Llywodraeth ac Asiantaeth y Parciau Brenhinol.
Rydym yn gyfrifol am roi cymorth dyngarol os bydd trychineb, megis y bomiau yn Llundain, yn ogystal â threfnu Seremoni flynyddol Dydd y Cofio yn y Senotaff.
Ym mis Mai 2005, aethom ati i ehangu ein cysylltiadau presennol gyda’r diwydiannau creadigol trwy fabwysiadu’r cyfrifoldeb dros ddylunio ffasiwn, hysbysebu a marchnad y celfyddydau oddi ar yr Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio (BERR).
Bellach, rydym yn gweithio ar y cyd â BERR ar faterion dylunio hefyd (gan gynnwys noddi’r Cyngor Dylunio) ac ynghylch cysylltiadau gyda’r diwydiant cyhoeddi a’r diwydiant gemau cyfrifiadurol.
top
Ein blaenoriaethau a’n targedau
Fel rhan o’r Adolygiad o Wariant yn 2004, cytunodd DCMS ar set o Gytundebau Gwasanaeth Cyhoeddus (CGCau) gyda Thrysorlys EM, a oedd yn adlewyrchu ein blaenoriaethau strategol.
Mae’r rhain yn delio â’r cyfnod rhwng 2005 a 2008 ac ar ôl hyn, byddant yn cael eu disodli gan y CGCau a ddisgrifir isod.
Mae’r CGCau presennol fel a ganlyn:
CGC 1: Sicrhau bod rhagor o bobl ifanc 5-16 oed yn manteisio ar gyfleoedd chwaraeon fel bod canran y plant ysgol sy’n treulio o leiaf dwy awr yr wythnos yn cymryd rhan mewn chwaraeon ysgol ac AG o ansawdd uchel o fewn y cwricwlwm a thu hwnt i’r cwricwlwm, yn codi o 25% yn 2002 i 75% erbyn 2006 ac 85% erbyn 2008 (targed ar y cyd gyda’r Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd (DCSF))
CGC 2: Atal y cynnydd blynyddol o ran nifer y plant dan 11 oed sy’n ordew erbyn 2010, fel rhan o’r strategaeth ehangach i ddelio â gordewdra yn y boblogaeth yn gyffredinol (targed ar y cyd â DCSF â'r Adran Iechyd)
CGC 3: Cynyddu’r cyfraddau manteisio ar gyfleoedd chwaraeon a diwylliannol ymhlith grwpiau y rhoddir blaenoriaeth iddynt gymaint ag 16 a throsodd erbyn 2008
CGC 4: Gwella cynhyrchiant y diwydiant twristiaeth, y diwydiant creadigol a’r diwydiant hamdden.
Cytundebau Gwasanaeth Cyhoeddus Newydd
Fel rhan o Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant 2007, mae’r Llywodraeth wedi newid fframwaith y Cytundebau Gwasanaeth Cyhoeddus (CGCau).
Bellach, ceir 30 CGC trawslywodraethol, y mae gan bob un ohonynt ddangosyddion ategol sy’n nodi canlyniadau blaenoriaeth y Llywodraeth ar gyfer y cyfnod rhwng 2008 a 2011. Ar gyfer pob CGC, ceir Adran arweiniol a nifer o Adrannau sy’n cyfrannu.
Mae gan bob CGC Gytundeb Darparu sy’n nodi cynlluniau ar gyfer darparu a rôl partneriaid allweddol. Cyhoeddir y set gyflawn o Gytundebau Darparu ar wefan Trysorlys EM.
Yn ogystal, er mwyn adlewyrchu cyfanrwydd y gwaith a gyflawnir gan Adrannau, lluniwyd set newydd o Amcanion Strategol Adrannol (ASAion) er mwyn iddynt weithredu ochr yn ochr â’r broses CGC. Bydd y CGCau a’r ASAion newydd yn dod i rym ym mis Ebrill 2008.
top
Ein Cytundeb Gwasanaeth Cyhoeddus
Mae'r DCMS yn arwain ar un CGC (y Gemau Olympaidd ac AG a Chwaraeon mewn Ysgolion) ac mae’n cyfrannu at chwech arall. Nod y CGC hwn yw:
“Darparu Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd llwyddiannus, gydag effaith gynaliadwy, a sicrhau bod rhagor o blant a phobl ifanc yn cymryd rhan mewn AG a chwaraeon o ansawdd uchel.”
Mae hwn yn cynnwys pum dangosydd ategol:
- Bodloni cerrig milltir hollbwysig ar gyfer lleoliadau a seilwaith tan 2011 gan ddefnyddio’r gyllideb a gweithredu trefniadau rheoli newid effeithiol.
- Cynllunio ar gyfer gwella seilwaith ffisegol, economaidd a chymdeithasol Dwyrain Llundain a ddatblygwyd ac y cytunwyd gydag awdurdodau lleol ac asiantaethau adfywio allweddol, ac elfennau cyn y Gemau yn cael eu gweithredu erbyn 2011.
- Statws darparu Coch/Ambr/Gwyrdd (RAG) strategaeth gynaliadwy Awdurdod Gweithredu’r Gemau Olympaidd tan 2011.
- Nifer o bobl ar draws cenhedloedd a rhanbarthau'r DU ac mewn gwledydd eraill yn cymryd rhan mewn rhaglenni sy’n cael eu cynorthwyo gan y llywodraeth ac sy’n gysylltiedig â'r gemau 2012.
- Canran y bobl ifanc 5-16 oed sy’n cymryd rhan mewn o leiaf dwy awr yr wythnos o AG a chwaraeon o ansawdd uchel yn yr ysgol a chanran y bobl ifanc 5-19 oed sy’n cymryd rhan mewn o leiaf dair awr bellach yr wythnos o gyfleoedd chwaraeon.
Nodir manylion llawn y dangosyddion hyn yng Nghytundeb Darparu CGC 22 ar wefan Trysorlys EM.
Yn ogystal, mae'r DCMS yn cyfrannu at y CGCau canlynol y mae adrannau Llywodraethol eraill yn berchen arnynt:
- Gwella cynhyrchiant economi'r DU
- Gwella iechyd a lles plant a phobl ifanc
- Codi nifer y plant a’r bobl ifanc sy’n dilyn llwybr llwyddiant
- Delio â’r anfantais y mae unigolion yn ei wynebu oherwydd eu rhyw, eu hil, eu hanabledd, eu hoedran, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu crefydd neu eu credo
- Cynyddu cyflenwad tai yn y tymor hir a’u fforddiadwyed
- Creu cymunedau sy’n fwy cydlynus, sy’n fwy gweithredol ac sydd wedi’u grymuso fwy
top
Amcanion Strategol Adrannol
Fel rhan o’r setliad, cytunodd yr Adran ar set newydd o amcanion strategol ar gyfer cyfnod yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant. Fe’u cynlluniwyd i gyd-fynd â’r Cytundebau Gwasanaeth Cyhoeddus a byddant yn helpu i gyflawni blaenoriaethau’r Adran.
Defnyddir set gydategol o ddangosyddion (i’w chyhoeddi yn nes ymlaen) i fesur y cynnydd. Nodir yr amcanion newydd ar gyfer 2008-2011 isod:
Cyfle: Annog mwynhad ehangach o ddiwylliant, y cyfryngau a chwaraeon
Rhagoriaeth: Cynorthwyo talent a rhagoriaeth ym maes diwylliant, y cyfryngau a chwaraeon
Effaith economaidd: Gwireddu manteision economaidd sectorau’r Adran
Y Gemau Olympaidd: Darparu Gemau Olympaidd a Pharalympaidd llwyddiannus ac ysbrydoledig gydag effaith gynaliadwy
Cytundeb Darparu Gwerth am Arian
Yn ogystal, mae gan yr Adran darged i sicrhau arbedion Gwerth am Arian blynyddol o 3%. Nodir manylion ynghylch y ffordd y byddwn yn sicrhau’r arbedion hyn yn ein Cytundeb Darparu.
Back to top